SchoolBeat.cymru
ac Ymddiriolaeth Lucy Faithfull

Stop It Now!

Cam-drin Rhywiol ar Blant

Ynglŷn â Stop It Now!

Nod Stop It Now! Cymru yw atal cam-drin plant yn rhywiol drwy annog camdrinwyr a chamdrinwyr posibl i ofyn am help a thrwy roi gwybodaeth sydd ei hangen ar oedolion i amddiffyn eu plant yn effeithiol.

Ariennir Stop It Now! gan Lywodraeth Cymru a Sefydliad Lucy Faithfull, sef elusen flaenllaw yn y DU sy'n gweithio i atal cam-drin plant yn rhywiol.

Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth gyffredinol o gam-drin rhywiol, mae gwaith Stop it Now! wedi'i anelu at y grwpiau allweddol hyn:

  • Rhieni, gofalwyr ac oedolion eraill sy'n amddiffyn plant: er mwyn rhoi gwybodaeth a chymorth iddynt sy'n eu helpu i amddiffyn plant a phobl ifanc rhag cael eu cam-drin yn rhywiol.
  • Gweithwyr proffesiynol: sy'n gweithio gyda theuluoedd a phlant i'w helpu i ymateb i faterion a phryderon ynglŷn â cham-drin rhywiol ac ymgorffori strategaethau atal yn eu gwaith.
  • Gwleidyddion a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol: er mwyn rhoi'r gwaith o atal cam-drin plant yn rhywiol ar yr agenda wleidyddol a rhoi polisïau ar waith sy'n diogelu plant yn y ffordd orau bosibl.

Gweithio i Roi Terfyn ar Gam-drin Blant a Chefnogi Pawb sydd neu sydd Wedi bod yn Rhan Ohono, Y Rhai sy'n Cyflawni a'r Goroeswyr.

Mae Stop It Now! yn gweithio gyda chymunedau ac asiantaethau gan gynnwys yr heddlu, y gwasanaeth prawf, gwasanaethau cymdeithasol plant, iechyd, tai, asiantaethau gwirfoddol a'r llysoedd ac yn darparu nifer o wasanaethau megis:

  • Deunyddiau gwybodaeth sy'n esbonio sut mae cam-drin plant yn rhywiol yn digwydd, beth yw'r arwyddion a sut i ofyn am gymorth.
  • • Hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth ymhlith y rhai sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd.
  • Mae adnoddau ar-lein megis Parents Protect ac adnoddau eraill ar gael ar y dudalen hon.
  • Ymgysylltu â phlant a phobl ifanc am gydberthnasau llawn parch ac am gadw'n ddiogel ar-lein ac all-lein.
  • Llinell gymorth radffôn gyfrinachol Stop It Now! 0808 1000 90

Mae'r Llinell Gymorth hon yn cefnogi'r gwaith hwn ac yn cynnig cyngor, cymorth a gwybodaeth gyfrinachol i'r grwpiau allweddol hyn:

  1. Camdrinwyr sy'n oedolion a'r rhai sy'n wynebu risg o gam-drin.
  2. Teulu a ffrindiau sy'n poeni am oedolyn sy'n dangos arwyddion o feddyliau rhywiol am blentyn neu ymddygiad rhywiol tuag at blentyn sy'n peri pryder.
  3. Rhieni a gofalwyr sy'n poeni am blentyn neu berson ifanc sy'n ymddwyn mewn ffordd rywiol sy'n peri pryder: eu hannog i adnabod yr arwyddion o ymddygiad sy'n peri pryder neu ymddygiad camdriniol a gofyn am gyngor ynglŷn â'r camau cadarnhaol y gallant eu cymryd.
  4. Oedolion sy'n poeni am blentyn neu berson ifanc a all fod wedi cael ei gam-drin.
  5. Gweithwyr proffesiynol yn gofyn am gyngor achos.
  6. Oedolion sydd wedi goroesi cael eu cam-drin yn rhywiol pan oeddent yn blant.

Pan fydd unigolyn yn ffonio, does dim angen i'r galwr roi unrhyw wybodaeth adnabod megis enw teulu, cyfeiriad neu rif ffôn.

Mae Stop it Now a Rhaglen Ysgolion Heddlu Cymru wedi gweithio'n agos gyda'i gilydd ers peth amser, ac yn rhannu eu hawydd i ddiogelu plant a phobl ifanc.

Yr Ystod Eang o Adnoddau sydd Ar Gael yn Gymraeg ac yn Saesneg

I Bawb

Yr hyn y mae angen i ni gyd ei wybod, er mwyn diogelu plant rhag cam-drin rhywiol  WWANTK.jpg (557×591) (stopitnow.org.uk)

Mae'r daflen hon hefyd ar gael mewn gwahanol ieithoedd, er mwyn cefnogi'r rhai mewn Grwpiau Ethnig Lleiafrifol, y rhai sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r rhai sy'n nodi eu bod yn LHDTC+.

Plant ethnig lleiafrifol:

https://www.stopitnow.org.uk/wp-content/uploads/2021/06/Stop-It-Now_What-We-All-Need-To-Know-WELSH-EYST_June2021.pdf  

Plant LQBTQ+ :

https://www.stopitnow.org.uk/wp-content/uploads/2021/06/Stop-It-Now_What-We-All-Need-To-Know-STONEWALL-WELSH_June2021.pdf

Plant ag anabledd dysgu:

https://www.stopitnow.org.uk/wp-content/uploads/2021/06/Stop-It-Now-What-We-All-Need-To-Know-LDW-Children-WELSH_June2021.pdf

Gwybodaeth i rieni a gofalwyr ag anabledd dysgu:

https://www.stopitnow.org.uk/wp-content/uploads/2021/06/Stop-It-Now_What-We-All-Need-To-Know-LDW-parents-WELSH_June2021.pdf

Fersiwn hawdd ei ddarllen:

https://www.stopitnow.org.uk/wp-content/uploads/2021/06/Stop-It-Now-What-We-All-Need-To-Know-Easy-Read-WELSH_June-2021.pdf

Mae'r adnodd hwn yn mynd i'r afael ag ymddygiad rhywiol niweidiol ac mae at ddefnydd pawb.    HSB-Prevention-Toolkit_MCH21.pdf (stopitnow.org.uk)

Taflen atal cam-drin plant yn rhywiol:

https://www.stopitnow.org.uk/wp-content/uploads/2022/05/2020WG_Campaign_Leaflet_CYMRU_14FEB20-1.pdf

a phoster: https://www.stopitnow.org.uk/wp-content/uploads/2022/05/2020WG_Poster_Campaign_CYMRU_11FEB20-1.pdf

Cerdyn Llinell Gymorth  https://www.stopitnow.org.uk/wp-content/uploads/2022/05/Welsh-helpline-card.pdf

Taflen atal cam-drin plant yn rhywiol https://www.stopitnow.org.uk/wp-content/uploads/2022/05/Preventing-Child-Sexual-Abuse-Welsh.pdf

Taflen Chwarae Plant: https://www.stopitnow.org.uk/wp-content/uploads/2022/05/Childs-Play-Welsh.pdf

Mae defnyddio'r rhyngrwyd yn aml yn achosi pryder: Mae'r daflen hon yn cyfeirio at broblemau a phryderon: https://www.stopitnow.org.uk/wp-content/uploads/2022/05/The-Internet-and-Children-Welsh.pdf

ac mae https://www.stopitnow.org.uk/wp-content/uploads/2022/05/Preventing-Child-Sexual-Abuse-Welsh.pdf yn rhoi trosolwg cyffredinol o'r gwaith ledled y DU.

I Rieni a Gofalwyr

https://www.stopitnow.org.uk/stop-it-now-wales/helping-parents-and-carers

Ymchwiliadau i gam-drin plant yn rhywiol: Canllaw i rieni a gofalwyr https://www.stopitnow.org.uk/wp-content/uploads/2021/05/WG-Non-Abusing-Parent-Guide_WELSH_FEB21.pdf

Mae Cynllun Diogelwch Teulu https://www.stopitnow.org.uk/wp-content/uploads/2022/05/Family-Safety-WELSH-WEB_30NOV15-1.pdf yn rhoi cyngor ar sut i gadw plant yn ddiogel yn y cartref.

Lluniwyd y daflen hon i roi cymorth i Rieni a Gofalwyr i atal cam-drin plant yn rhywiol. Yr hyn y mae angen i ni gyd ei wybod:  https://www.stopitnow.org.uk/wp-content/uploads/2022/06/Child_Sexual_Abuse_Prevention_Parents_WELSH_OCT18.pdf

Y Rheolau CLYFAR i'w rhannu gyda'ch plant i'ch helpu i amddiffyn eich plentyn/plant:

Oedolyn/plant Fersiwn Saesneg: Lawrlwytho'r daflen
Rhieni/gofalwyr Fersiwn Saesneg: 
Lawrlwytho'r daflen
Rhieni/plant Fersiwn Gymraeg: 
Lawrlwytho'r daflen
Rhieni/gofalwyr Fersiwn Gymraeg: 
Lawrlwytho'r daflen

I Weithwyr Profesiynol

Pecyn cymorth i weithwyr proffesiynol er mwyn iddynt helpu i amddiffyn plant a phobl ifanc:   WG-Preventing-CSA-Toolkit-for-Practitioners_22FEB22-1.pdf (stopitnow.org.uk)

Nod y daflen hon yw rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen ar bob un ohonom i roi mesurau ataliol ar waith, adnabod yr arwyddion o gam-drin plant yn rhywiol – a magu'r hyder i weithredu. https://www.stopitnow.org.uk/wp-content/uploads/2022/06/Child_Sexual_Abuse_Prevention_Professionals_WELSH_OCT18.pdf